Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2017
Amser: 08.30 -
08.38
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Rhun ap Iorwerth AC Paul Davies AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Mae'r datganiadau ar y Gwerthusiad Annibynnol o'r Model Ymateb Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac Adolygiad Addysg ac Argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi'u cyfnewid.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith yn gwneud Datganiad ar Ddyfodol Gwasanaethau Bysiau Lleol (45 munud).
Bydd Arweinydd y Tŷ yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog, sydd ar ymweliad â'r Unol Daleithiau. Bydd Arweinyddion y Gwrthbleidiau yn gofyn cwestiynau heb rybudd, yn unol â'r drefn arferol.
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 22 Mawrth 2017 -
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Pedolwyr (Cofrestru).
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at ddibenion gwaith craffu. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 23 Mawrth 2017 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 28 Mawrth 2017.
Trafododd y Rheolwyr Busnes adroddiad drafft ar y newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 23 er mwyn newid y drefn bresennol ar gyfer Deisebau Cyhoeddus.
Gwnaeth y Rheolwyr Busnes gytuno ar yr adroddiad a chytuno i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i'w drafod ar 8 Mawrth 2017.
Rhoddodd Arweinydd y Tŷ y wybodaeth ddiweddaraf am Fil yr Economi Ddigidol.
Anogodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i drafod ei chynigion ynghylch Cwestiynau Amserol ymysg ei gilydd oddi allan i weithgarwch y Pwyllgor, gyda'r bwriad o ganfod tir cyffredin cyn trafod y mater eto mewn cyfarfod Pwyllgor.